Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi ei fenter ddiweddaraf: rhaglen beilot blwyddyn o hyd ar gyfer gwasanaeth ymateb symudol 24/7 sydd â'r nod o wella'r cymorth sydd ar gael i ddefnyddwyr ei wasanaeth Lifeline. Mae'r rhaglen arloesol hon yn sicrhau y bydd defnyddwyr Lifeline sy'n wynebu argyfyngau anfeddygol, fel cwympo heb gael anaf, yn gallu cael cymorth prydlon a chyflym gan ymatebwyr hyfforddedig yn eu cartrefi eu hunain.