Feedback
Your feedback helps us improve. Tell us what you think
Cynllun cymorth hunanynysu
Fe allech chi gael taliad i helpu os ydych wedi colli enillion o ganlyniad i orfod hunanynysu am gyfnod ac na allwch weithio gartref.
Cynnwys
Mae’r Cynllun Cymorth Taliadau Hunanynysu Covid 19 wedi gorffen ar 30 Mehefin 2022.
Os rydych wedi cael canlyniad positif ac wedi gorfod hunanynysu ar neu cyn 30 Mehefin 2022 a rydych yn gymwys am gymorth , mae gennych 21 diwrnod i gyflwyno eich cais ar ôl eich diwrnod diwethaf o hunanynysu.
haid ichi fod mewn gwaith (yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig) i gael y taliad ac mae gofyn ichi Rhawlio o fewn 21 diwrnod i ddiwrnod diwethaf eich cyfnod hunanynysu.
Ni ddylent effeithio ar eich budd-daliadau.
Cymhwyster
Mae'n rhaid i chi gael un o'r canlynol:
- wedi adrodd prawf llif unffordd positif (LFT) o fewn 24 awr o gael y canlyniad, neu
- wedi cael canlyniad prawf PCR positif
Cyn y cyfnod hunanynysu mae rhaid eich bod:
- yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig
- methu gweithio o gartref ac yn colli incwm o ganlyniad i’r hunanynysu
- yn hawlio un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Credyd Pensiwn
Os nad ydych yn derbyn un o'r budd-daliadau, efallai byddwch yn gymwys os oes dyfarniad wedi ei wneud eich bod yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i’r golled yn eich cyflog tra yn hunanynysu. Esiampl o ble gall taliad ei wneud yw lle mae unigolyn ac incwm net o lai na £500 yr wythnos.
Os yw eich plentyn wedi cael canlyniad positif sydd wedi ei gofnodi
Gall rhiant neu warcheidwad wneud cais am daliad os yw’r plentyn wedi cael canlyniad positif. Ni allwch gael y taliad os yw ap COVID y GIG wedi gofyn i’ch plentyn hunanynysu.
I gael y taliad mae’n rhaid bod eich plentyn yn mynychu'r ysgol, addysg bellach neu ofal plant (hyd at a gan gynnwys Blwyddyn 11, neu hyd at 25 oed os oes ganddo anghenion cymhleth) a’i fod wedi cael cais ffurfiol i hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.
Sut i wneud cais
Sicrhewch eich bod yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi eich hawliad i leihau ar yr oedi.
Cliciwch y botwm 'Cychwyn Cais' ar waelod y dudalen hon
Gwneud cais ar ran rhywun arall
Gallwch wneud cais ar ran rhywun arall, ond rhaid talu'r taliad i'r un cyfrif banc a enwir â'r person y mae'r cais amdano. Er enghraifft, os gwneir cais ar ran rhiant, byddai'r taliad yn cael ei wneud i gyfrif banc y rhiant.
Beth fydd ei angen arnoch chi
Cadarnhad o’r dyddiad hunanynysu
Tystiolaeth eich bod yn cael un o’r budd-daliadau a restrwyd yn yr adran ar bwy sy’n gymwys.
Os ydych yn gyflogedig, byddwch hefyd angen:
- eich cyfriflen banc diweddaraf (o fewn y 2 fis diwethaf yn dangos tystiolaeth o’ch enillion)
- eich slip cyflog diweddaraf (o fewn y 2 fis diwethaf yn dangos tystiolaeth o’ch enillion)
- enw’r banc, cod didoli a rhif cyfrif (gwneir yr holl daliadau drwy drosglwyddiad banc BACS yn unig)
Os ydych yn hunangyflogedig byddwch hefyd angen:
- eich cyfriflen banc diweddaraf ar gyfer eich cyfrif busnes (o fewn y 2 fis diwethaf
- eich cyfrifon diweddaraf neu hunanasesiad diweddaraf
- enw’r banc, cod didoli a rhif cyfrif (gwneir yr holl daliadau drwy drosglwyddiad banc BACS yn unig)
Wedi ichi wneud cais
Bydd eich manylion yn cael eu gwirio yn erbyn cofrestr Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru. Mae'n rhaid cofrestru prawf llif unffordd positif o fewn 24 awr o gael y canlyniad i gwrdd y meini prawf.
Byddwch yn cael e-bost neu lythyr i ddweud a yw eich cais wedi’i gymeradwyo neu beidio.
Os na chaiff eich cais ei gymeradwyo
Gwrthodir eich cais os na fyddwch yn cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd. Ni allwch apelio na gofyn am adolygiad o'ch cais.
Efallai y bydd eich awdurdod lleol yn gallu eich helpu pe bai gwybodaeth ar goll o'ch cais.
Fe allech chi hefyd gwneud cais am y Gronfa Cymorth Dewisol.
Os oes mwy nag un person yn eich aelwyd yn cofnodi prawf positif
Os rydych chi ac eraill yn eich aelwyd yn gymwys, caiff pob person wneud cais am y taliad.
Os yw eich plentyn yn gymwys, dim ond un taliad ar gyfer y cartref y gallwch ei hawlio ar adeg y cyfnod hunanynysu.
Mwyafswm o geisiadau a all ei gwneud
Gallwch dderbyn mwyafswm o 3 thaliad. Yn ogystal gall 3 taliad ar gyfer plant sydd yn cwrdd y meini prawf ei wneud i rieni neu ofalwyr.
Rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cais. Rhaid i'r cyfnodau ynysu beidio â gorgyffwrdd.
Treth a'r cynllun cymorth hunanynysu